Rydym bellach wedi datblygu Modiwl Llywodraethu annibynnol newydd ASYT sy'n canolbwyntio ar lais y tenant mewn llywodraethu

Llywodraethu a Llais y Tenant: adolygu a dilysu

Modiwl ASYT Newydd

Mae gwasanaeth cymorth a dilysu cenedlaethol ASYT (Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid) gan TPAS Cymru yn rhoi cyngor a thystiolaeth i landlordiaid cymdeithasol i’ch helpu i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ymgysylltiad a llais tenantiaid.

Rydym bellach wedi datblygu Modiwl Llywodraethu annibynnol newydd ASYT sy'n canolbwyntio ar lais y tenant mewn llywodraethu.

Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu eich sefydliad i adolygu ac asesu eich trefniadau llywodraethu presennol mewn perthynas â llais y tenant ar lefel bwrdd yn annibynnol, i ystyried arfer da ac i ddangos sut rydych yn bodloni ‘Safonau Rheoleiddio’ Llywodraeth Cymru.

Gallwn hefyd ddarparu amrywiaeth o argymhellion i’ch helpu i archwilio ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys clywed lleisiau ystod amrywiol o denantiaid ar lefel lywodraethu.

 

 

 

 

Felly pam ddylai eich sefydliad gynnal y gwasanaeth dilysu ac asesu hwn?

Bydd yr asesiad yn:

  • Eich helpu i adolygu eich sefyllfa bresennol o ran sicrhau cyfranogiad tenantiaid mewn llywodraethu a nodi cyfleoedd i wella.
  • Darparu tystiolaeth annibynnol i ddangos eich bod yn bodloni neu’n gweithio tuag at fodloni disgwyliadau a Safonau Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru.
  • Eich helpu i amlygu meysydd o arfer da yn eich sefydliad.
  • Dangos eich ymrwymiad i gynnwys tenantiaid mewn llywodraethu.

Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:

David Lloyd, Cyfarwyddwr Rhaglen: [email protected]