Lleisiwch eich llais yn ein harolwg rhent a thâl gwasanaeth!
Ydych chi'n denant Tai Cymdeithasol? Ydych chi'n rhentu gan y Cyngor neu Gymdeithas Tai?
Yn dilyn ein Pwls Tenantiaid cyntaf ar rent a thaliadau gwasanaeth yn 2022, rydym am sicrhau bod lleisiau tenantiaid yng Nghymru yn cael eu clywed.
Y llynedd, bu eich barn yn help mawr, a chyflwynodd TPAS Cymru eich barn i uwch weision sifil ac i’r Gweinidog.
Oeddech chi’n gwybod bod y Gweinidog sy’n gyfrifol am dai cymdeithasol (Julie James AS) bob blwyddyn yn ystyried gwybodaeth a data er mwyn pennu uchafswm rhent blynyddol y gall landlordiaid tai cymdeithasol ei gymhwyso?
Tua mis Hydref/Tachwedd 2023, bydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r cap rhent ar gyfer y flwyddyn nesaf! Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i TPAS Cymru gasglu barn tenantiaid ar hyn.
Rydym angen eich llais ar hyn o bryd i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich cynrychioli yn y penderfyniad hwn. Bydd eich lleisiau yn y mater hwn yn cael eu clywed gan y Gweinidog ei hun.
Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, a gallwch ddewis mewn raffl am ddim i ennill gwobrau bwyd blasus Cymreig.
Dweud eich dweud drwy gwblhau'r arolwg yma
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr uchod, anfonwch e-bost at [email protected]