O ran tenantiaid, rhentu ac ymgysylltu, rydym wedi sylwi ar 3 thema gyffrous, gymhellol sy'n dod i'r amlwg gan bobl iau yn bennaf sy'n rhentu’n breifat.

 

Landlordiaid – A yw eich llety yn pasio'r prawf TikTok?

Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol yn mynd a dod fel tueddiadau ffasiwn, ond does dim gwadu bod TikTok wedi dal dychymyg pobl ifanc dros y 12-18 mis diwethaf. Mae'r defnydd yn enfawr ac mae llawer o dîm TPAS Cymru wedi ymuno â mi i fod yn gaeth i TikTok.

O ran tenantiaid, rhentu ac ymgysylltu, rwyf wedi sylwi ar 3 thema gyffrous, gymhellol sy'n dod i'r amlwg gan bobl iau yn bennaf sy'n rhentu’n breifat.

Thema 1 – Y chwerthinllyd?

Mae gan bawb eu straeon eu hunain, neu wedi clywed straeon arswydus am dai myfyrwyr. Un duedd sy'n dod yn fwy a mwy poblogaidd ar TikTok yw: fideos ar y thema ‘Pethau yn fy nhŷ myfyriwr sydd yn gwneud synnwyr’ lle mae'r tenantiaid yn mynd ati yn goeglyd i nodi'r amodau eiddo gwael gan gynnwys dodrefn wedi torri, lleithder, chwain, a'r oergell fach rydlyd ar gyfer 8 o bobl.

Yn y sylwadau, mae'r myfyrwyr yn aml yn cyfaddef bod ymweliadau wedi bod yn annigonol / dibrofiad neu'n mynegi rhwystredigaeth ynghylch addewidion yn cael eu torri gan y landlord.

Yn TPAS Cymru, rydym yn credu bod angen i ni arfogi pobl ifanc gyda'r offer i wella ymweliadau, a sut i wneud i landlordiaid gyflawni eu haddewidion. I bobl ifanc sy'n symud i mewn i dai myfyrwyr, dyma'r tro cyntaf iddynt symud i'w heiddo rhent eu hunain, felly yn aml gallant fod yn hollol anymwybodol o'r hyn y dylent fod yn cadw llygad amdano wrth ymweld â’r eiddo.

Thema 2 – Y gwerth amheus?

Mae pris tai myfyrwyr yn bwnc dadleuol, y cwestiwn o: a yw fy llety £200 yr wythnos yn werth yr arian? yw’r un sy’n cael ei drafod yn aml. Rydych chi'n gwybod y stori: myfyrwyr yn talu swm enfawr o rent, i fyw mewn blociau uchel newydd o goridorau hir gydag ystafelloedd gwely en-suite a chegin gymunedol ac efallai ardal lolfa yn rhywle, os ydyn nhw'n lwcus. Mae gan Gaerdydd ac Abertawe lawer o'r datblygiadau preifat hyn sydd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ymddangos yn boblogaidd. Fodd bynnag, mae'r ffioedd uchel yn edrych yn llai deniadol nawr gyda'r cyfnod clo, darlithoedd o bell, cyfleusterau prin a chrwydro o amgylch adeiladau gwag. Mae myfyrwyr yn aml yn cael eu cloi mewn contractau rhwymol 12 mis na allant ddod allan ohonynt gan eu bod yn teimlo'n fwy diogel yn mynd adref.  Mae TPAS Cymru wedi bod yn dilyn y mater hwn gyda diddordeb.

Thema 3 – y frwydr?

I'r myfyrwyr hyn, gall hyd yn oed cael ymateb gan eu landlord neu gwmni tai achosi wythnosau o straen, heb sôn am ddatrys y broblem. Mae TikTok yn dangos pobl ifanc yn dogfennu'r brwydrau hyn gyda landlordiaid ar atgyweiriadau, difrod a hyd yn oed ceisio cael eu blaendal yn ôl.

Rwyf wedi gwylio hynt a helyntion llawer (rhaid cyfaddef y gallai algorithm TikTok fod yn dangos mwy i mi na phobl eraill). Wrth imi ddilyn eu brwydrau epig yn erbyn y system, yr hyn yr wyf yn ei hoffi yw'r adrannau sylwadau yn cynnig rhywfaint o gyngor a chefnogaeth ddefnyddiol gan bobl sydd yn aml yn gwybod eu hawliau tenantiaid. Rwyf hefyd yn hoffi'r ffaith fod y tenantiaid rhan fwyaf o'r amser, yn ennill yn y pen draw. Gall y cyngor hwn fod yn hanfodol i'r rhentwyr ifanc cyntaf hyn, oherwydd gallant fod yn gwbl anymwybodol o'u hawliau.

Os ydych eisiau syniad o rwystredigaeth a gwaith araf cynlluniau blaendal tenantiaeth, dilynwch @max_balegde, sydd ar adeg ysgrifennu'r erthygl yma, bellach ar ran 15 o ‘Max V’s Landlord’ dros staen honedig ar ei fatres sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers misoedd.

I gloi

Rydym yn gwybod y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn lle tywyll a chreulon weithiau. Fodd bynnag, ar yr achlysur hwn, mae'n dda iawn gweld bod pobl ifanc yn defnyddio'r platfform cyfryngau cymdeithasol hwn i herio'r driniaeth a gânt gan eu landlord a'u cwmni tai, ond hefyd i gael cyngor a chefnogaeth gan eraill sydd wedi profi materion tebyg iddynt. Efallai y bydd tynnu sylw at y ffordd y mae perchnogion eiddo yn cymryd mantais ar bobl ifanc sy'n rhentu ganddynt, yn un ffordd i sicrhau ei fod yn stopio neu'n digwydd llawer llai nag y mae nawr.