Pwls Mini gan TPAS Cymru

Gweithio Gyda'n Gilydd i gael Cartrefi Diogelach, Iachach yng Nghymru
Pwls Mini gan TPAS Cymru

Mae marwolaeth drasig Awaab Ishak - plentyn dwy oed a fu farw o fod yn agored i lwydni yn ei dŷ cymdeithasol - wedi effeithio’n fawr ar bob un ohonom. Mae’n ein hatgoffa’n bwerus ac yn boenus pam mae’n rhaid i gartrefi diogel ac iach fod yn hawl sylfaenol i bawb.

Er i’r drasiedi hon ddigwydd yn Lloegr, mae wedi sbarduno sgyrsiau pwysig yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn ymgynghori ar ganllawiau newydd i gryfhau Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), gan ei gwneud yn glir sut y dylai landlordiaid cymdeithasol ymateb i beryglon difrifol fel lleithder, llwydni, a risgiau iechyd eraill.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Byddai’r canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru:

  • Gweithredu'n gyflym ac yn effeithiol pan roddir gwybod am berygl
  • Cyhoeddi eu hamseroedd ymateb, fel bod tenantiaid yn gwybod beth i'w ddisgwyl
  • Adrodd ar berfformiad fel rhan o'u cyfrifoldebau SATC

Mae'n ymwneud â gwella tryloywder, atebolrwydd ac ymddiriedaeth.

Pam mae’n bwysig?

Adolygodd grŵp o arbenigwyr tai ac iechyd yng Nghymru yr hyn y gallwn ei ddysgu o ddigwyddiadau diweddar. Roeddent yn cytuno: mae angen inni weithredu’n gynt, cymryd pryderon tenantiaid o ddifrif, a gwneud yn siŵr bod cartrefi’n ddiogel ac yn iach i bawb - o bobl hŷn a theuluoedd i’r rhai â chyflyrau iechyd neu ar incwm isel.

Nid dim ond lleithder a llwydni yw hyn. Mae'n cynnwys 29 math o beryglon o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai - fel oerfel, awyru gwael, a materion strwythurol.

I denantiaid, gallai’r newidiadau hyn olygu cartrefi iachach, safonau cyson ac ymatebion cyflymach a mwy tryloyw gan landlordiaid.

Sut allwch chi gael dweud eich dweud?

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am adborth ar y cynnig hwn, ac mae eich llais yn bwysig. Bydd yr ymatebion a gânt yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn llunio fersiwn derfynol y canllawiau newydd yn SATC.

Yn TPAS Cymru, rydym yn cefnogi’r gwaith hwn i gryfhau safonau tai ac rydym yn falch o rannu llais y tenant ar y newidiadau arfaethedig. 

Rydyn ni’n credu bod pob tenant yn haeddu cartref sy’n saff, yn ddiogel ac sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles - a byddwn ni’n parhau i weithio gyda thenantiaid i wireddu’r weledigaeth honno.

Felly, rydym yn cynnal Pwls Mini byr i gasglu eich barn ar y pwnc pwysig hwn.

Gwnewch eich llais yn cael ei glywed yn ein Pwls Mini yma: https://tpascymru.questionpro.eu/saferhomes

 

 

If you have any questions about our work in this area, please email [email protected]