Sut i osod ffynnon dŵr yfed yng Nghymru am lai na £5 mil
Pam gosod ffynnol dŵr / pwynt ail-lenwi?
Rwyf wedi bod yn Aelod o Bwyllgor / Ymddiriedolwr yr elusen gofrestredig 'Cyfeillion Parc Belle Vue, Penarth' ers llawer o flynyddoedd ac yr oedd nifer ohonom yn siomedig gyda nifer y poteli plastig a oedd yn cael eu taflu yn ein parc. Yn 2014, penderfynwyd adeiladu ffynnon dŵr yfed hygyrch newydd gyda phwynt ail-lenwi potel ychwanegol.
Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac o ganlyniad mae fy awdurdod lleol (Bro Morgannwg) wedi cychwyn cyflwyno hyn mewn parciau eraill.
Sylwais hefyd erbyn hyn (2020) mae un tebyg ar lan y môr Aberystwyth - perffaith ar gyfer diwrnod poeth ar y traeth.
Dyma ddogfen byr y dylech ei ddarllen
Mae'n mynd â chi drwy'r costau, heriau a’r pwyntiau technegol ar sut i gael ffynnon dŵr yfed ffantastig - wedi ei brynu a’i osod am lai na £5 mil!
Nodyn: Fe'i diweddarwyd yn 2019 a 2020 gyda gwybodaeth newydd, a chostau.
Ydych chi'n ymwneud â phrosiect i osod ffynhonnau dŵr yfed? Gadewch inni wybod
David Wilton, Prif Withredwr TPAS Cymru
Erthyglau eraill yn y Newyddion. A fydd Caerdydd yn gosod ffynhonnau dŵr yfed?
Dyma blant yn mwynhau ein ffynnon ym mharc Penarth
Hefyd.....