Fforwm Tenantiaid Preifat Gogledd Cymru
24 Mai 2023, 6:30pm-7:30pm
Ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod tai yng Ngogledd Cymru?
Hoffech chi weithio gyda'ch gilydd gyda llunwyr polisi a phenderfyniadau lleol i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed?
Mae 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat. Rydym yn cynnal fforwm tenantiaid awr o hyd i glywed eich lleisiau ar yr hyn rydych chi'n meddwl yw'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch chi fel tenant.
Yr awdurdodau lleol dan sylw yw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar daflen ffeithiau newydd a wnaed i chi ar gostau byw.
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM sy’n agored i holl denantiaid rhentu preifat ar draws Gogledd Cymru a bydd yn cael ei gynnal trwy Zoom.
Gyda'n gilydd, rydym wedi creu taflen ffeithiau ar gostau byw gyda gwybodaeth allweddol i denantiaid ar y pwnc pwysig hwn a gwybodaeth am sefydliadau neu fentrau a allai fod yn ddiddorol neu'n fuddiol i chi. Nawr, byddem wrth ein bodd yn cael eich adborth ar y daflen ffeithiau hon ar bwnc mor bwysig.
I ddarllen y taflen ffeithiau yn Saesneg, cliciwch yma
I ddarllen y taflen ffeithiau yn y Gymraeg, cliciwch yma.
Neu, Os byddai’n well gennych rannu eich llais ar-lein yn lle mynychu’r Fforwm Tenantiaid, rydym wedi sefydlu ffurflen adborth ar-lein y gallwch ei defnyddio.
I roi adborth yn y Gymraeg neu Saesneg cliciwch yma
I gofrestru i sicrhau eich lle am ddim ar gyfer ein Fforwm Tenantiaid - defnyddiwch y ddolen isod: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMrfu-trDsrH9UC5ndNGJlmIHcalAEJWqSX
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch [email protected]
Hysbysiad preifatrwydd: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan TPAS Cymru mewn partneriaeth â 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad rydych yn rhoi caniatâd i TPAS Cymru anfon gwahoddiad Zoom atoch i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd.