Darganfyddwch mwy am y gwaith ysbrydoledig a'r llwyddiannau ledled Cymru

Gwobrau Arfer Da 2024: Darganfyddwch mwy am y gwaith ysbrydoledig a'r llwyddiannau ledled Cymru.  

Cawsom ein syfrdanu gan yr holl gyflwyniadau ysbrydoledig a gwych a gawsom ar gyfer ein Gwobrau Arfer Da 2024 ac roeddem eisiau rhannu gwaith anhygoel yr enillwyr gyda chi.

Eleni, roeddem wrth ein bodd i fod yng Nghaerdydd unwaith eto gyda thenantiaid, staff a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru i ddathlu a rhannu rhywfaint o’r arfer da hwn ac i gefnogi ac ysbrydoli eraill.

Cyhoeddwyd enillwyr ac enwebeion 2024 yn ein Cinio Gala a Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd ar 3 Gorffennaf 2024. 

Y categorïau ar gyfer 2024 oedd: 

  1. Llais y Tenant - Noddwyd gan Cartrefi Cymoedd Merthyr
  2. NEWYDD Cynnwys Tenantiaid mewn mentrau Amgylcheddol - Noddwyd gan CIH Cymru
  3. Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio neu Adolygu Gwasanaethau - Noddwyd gan TCC
  4. Cymunedau'n Cefnogi Cymunedau - Noddwyd gan Cartrefi Conwy
  5. Tîm Tenantiaid y Flwyddyn - Noddwyd gan Tai Taf
  6. Cyfathrebu â Thenantiaid a Phreswylwyr - Noddwyd gan Hough Bellis
  7. Rhaglen Cymorth/Cyngor i Breswylwyr - Noddwyd gan Altair Cyf
  8. NEWYDD Preswylydd/Tenant Ifanc y Flwyddyn - Noddwyd gan Tai Sir Fynwy
  9. Tenant y Flwyddyn - Noddwyd gan Y Brifysgol Agored
 

Rhoddwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd.

Rydym wedi llunio'r adroddiad canlynol y gellir ei lawrlwytho er mwyn rhannu'r hyn a ddysgwyd ac ysbrydoli eraill:  

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am bob un o’r 10 enwebiad buddugol a 3 uchaf y beirniaid ym mhob categori.

Diolch i holl enwebwyr gwobrau eleni am ddarparu cynnwys yr adroddiad hwn. Rydym wedi ychwanegu eu manylion cyswllt ar gyfer pob un o'r enwebiadau buddugol os hoffech gael gwybod mwy am y prosiectau.

Hoffem hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r digwyddiad yn rhannol ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i’n noddwyr, Tai Wales & West

Logo, icon, company nameDescription automatically generated

 

Diolch i chi unwaith eto ac edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad TPAS Cymru yn fuan