Dweud eich dweud ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd
Yn TPAS Cymru rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed, eu hystyried ac yn helpu i siapio polisi ac arfer tai yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tenantiaid yn clywed sut i rannu eich llais ar y pynciau pwysig hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weithdai i gefnogi casglu tystiolaeth ar gyfer ymgynghori. Fel rhan o hyn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru weithdy yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ac yn cynnal sesiwn gweminar ar-lein, a fydd yn cynnwys cyflwyniad ar y Papur Gwyn a sesiwn holi-ac-ateb. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi rannu eich cwestiynau a chlywed mwy am y Papur Gwyn.
Cynhelir y digwyddiad gweminar hwn ddydd Iau, 30 Ionawr, 18:00-19:00 ar Microsoft Teams, gan roi cyfle i denantiaid ofyn unrhyw gwestiynau cyn i ymgynghoriad y Papur Gwyn ddod i ben.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni rannu’r wybodaeth isod gyda chi:
I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Byw, e-bostiwch [email protected] a byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Digwyddiad Byw.
Fel arall, gallwch ymuno â'r digwyddiad gweminar gan ddefnyddio'r ddolen isod:
https://teams.microsoft.com/l/meetup-join/19%3ameeting_Mjg3MTI3ZjgtMzgwYS00M2Q2LTgzOTEtNDRjNjExNjRjYTBl%40thread.v2/0?context=%7b%22Tid%22%3a%22a2cc36c5-9280-4ae7-8887-d06dab89216b%22%2c%22Oid%22%3a%2299b0a3fe-14f1-430c-8055-8f033dc0a074%22%7d
Byddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau yn ystod y sesiwn. Fodd bynnag, os hoffech gyflwyno unrhyw gwestiynau cyn y sesiwn, anfonwch unrhyw gwestiynau at [email protected]
-
Fel mynychwr digwyddiad byw yn Teams, gallwch wylio diweddariadau byw a chymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb wedi'i chymedroli, ond ni allwch rannu'ch sain na'ch fideo.
-
Os nad yw’r digwyddiad byw wedi dechrau, fe welwch y neges ganlynol ‘Nid yw’r digwyddiad byw wedi dechrau eto’. Arhoswch ar y dudalen, bydd y sesiwn yn cychwyn yn fuan.
-
Os hoffech chi droi Capsiynau Byw ymlaen, dewiswch yr eicon CC ar ochr dde waelod eich sgrin a dewis ‘Capsiynau/Is-deitlau Ymlaen’. (Nid yw capsiynau ar gael trwy fersiwn porwr gwe Teams)