Mae Llywodraeth Cymru am ymgynghori ag ystod eang o breswylwyr (tenantiaid a lesddeiliaid) i gefnogi datblygiad polisi ar gynigion ar gyfer Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru

Cyfle i Denantiaid yng Nghymru gyfrannu at ddatblygiad diwygiadau diogelwch adeiladau yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru am ymgynghori ag ystod eang o breswylwyr (tenantiaid a lesddeiliaid) i gefnogi datblygiad polisi ar gynigion ar gyfer Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru Gweler y wybodaeth isod gan Lywodraeth Cymru am yr hyn sydd dan sylw a phwy i gysylltu â nhw.

Mae'r cynigion yn ceisio deddfu i rymuso trigolion drwy gryfhau eu llais ar faterion diogelwch adeiladu, rhoi cyfle i ymgysylltu â'u landlord a sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu pryderon a'u cwynion.  

Mae'n bwysig felly ein bod yn ymgynghori ag ystod eang o denantiaid a lesddeiliaid er mwyn iddyn nhw allu dweud eu dweud ar ein cynigion a rhannu eu profiadau byw er mwyn helpu i lywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ran diogelwch adeiladau yng Nghymru. Rydym yn croesawu diddordeb gan bob un o'r trigolion a hoffai gyfrannu ac yn gofyn iddynt gysylltu â ni i gymryd rhan yn ein grwpiau ffocws. 

Rydym eisiau clywed gan gynifer o denantiaid / preswylwyr â phosibl, ond rydym hefyd yn awyddus iawn i sicrhau y caiff llais a mewnwelediadau tenantiaid/lesddeiliaid anabl, a thenantiaid / lesddeiliaid o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eu clywed. Rydym yn croesawu diddordeb gan y trigolion hyn. 

Yn ogystal â chael cyfle i gyfrannu at ddatblygu diwygiadau diogelwch adeiladau yn y dyfodol, bydd trigolion sy'n cymryd rhan yn ein grwpiau ffocws yn cael eu talu am eu hamser. 

Os ydych yn denant neu'n lesddeiliad a bod gennych ddiddordeb cymryd rhan yn ein hymgynghoriadau preswyl ac yr hoffech wybod mwy, cysylltwch â Mike Corrigan ar [email protected]

Os ydych chi'n Gymdeithas Dai ac yn gwybod am drigolion sydd â diddordeb, gofynnwch iddynt gysylltu â Mike Corrigan ar [email protected].  Os oes gennych chi gysylltiadau gyda Chymdeithasau Preswyl a lesddeiliaid yn eich stoc dai, a allwch chi basio hwn ymlaen atynt.  Diolch.

 
Mike Corrigan
Rheolwr Polisi Diwygio Preswylwyr
Llywodraeth Cymru