Mae TPAS Cymru yn falch o lansio prosiect newydd mewn cydweithrediad â’r Comisiwn Etholiadol.

Cefnogi tenantiaid a grymuso cymunedau drwy ddemocratiaeth

Mae TPAS Cymru yn falch o lansio prosiect newydd mewn cydweithrediad â’r Comisiwn Etholiadol i gefnogi tenantiaid a staff tai cymdeithasol i deimlo’n fwy hyderus a gwybodus am ddemocratiaeth..

Oeddech chi’n gwybod bod ymchwil y Comisiwn Etholiadol yn datgelu mai dim ond 82% o denantiaid sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru sydd wedi’u cofrestru’n gywir, o gymharu â 94% o berchnogion tai.

Fel rhan o’r prosiect hwn, byddwn yn gweithio’n agos gyda thenantiaid, staff a rhanddeiliaid i ddarganfod beth sy’n atal pobl rhag cofrestru ac archwilio sut mae tenantiaid yn teimlo am ddemocratiaeth a phleidleisio. Mae digon o gyfleoedd i staff a thenantiaid gymryd rhan dros y 3 mis nesaf.

O ddeall datganoli a’r Senedd i ddysgu sut i gofrestru a bwrw eich pleidlais, mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau a gwneud y broses ddemocrataidd yn hygyrch i bob tenant.

Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu newid parhaol a grymuso tenantiaid yng Nghymru. Byddwn yn datblygu argymhellion ymarferol i wella rhannu gwybodaeth pleidleiswyr a chofrestru mewn tai cymdeithasol drwy wrando ar denantiaid a dysgu beth sy’n gweithio orau.

Dim ots os ydych yn gydweithiwr tai, tenant neu aelod, cadwch y dyddiadau yn eich dyddiadur ar gyfer y digwyddiadau isod am ddim:

Ar gyfer ymholiadau am y prosiect hwn, cysylltwch â ni trwy [email protected]