Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r 5 cam i iechyd a lles: Dysgu; Cymryd Sylw; Cysylltu; Rhoi, a Bod yn Actif: yn y gorffennol, mae TPAS Cymru wedi awgrymu ffyrdd o ymgorffori’r camau hyn i weithgareddau Cyfranogiad Tenantiaid / Cymunedol.  

5 cam i Iechyd a Lles yn ystod ynysu cymdeithasol

Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r 5 cam i iechyd a lles: Dysgu; Cymryd Sylw; Cysylltu; Rhoi, a Bod yn Actif: yn y gorffennol, mae TPAS Cymru wedi awgrymu ffyrdd o ymgorffori’r camau hyn i weithgareddau Cyfranogiad Tenantiaid / Cymunedol.  

O ystyried y firws Corona parhaus, gall y 5 cam hyn fod yn bwysicach nag erioed.  Yn TPAS Cymru mae gennym rai awgrymiadau ynghylch sut y gallwch chi addasu'r 5 cam yma i iechyd a lles i'w defnyddio yn ystod yr amseroedd heriol hyn i gynnig dulliau cyfranogiad o bell i denantiaid a phreswylwyr.

Dysgu

Gall dysgu parhaus trwy gydol ein bywydau helpu i fynd i'r afael ag unigedd ac iselder ysbryd a gall wella hunan-barch.  Mae tystiolaeth hefyd y gall yr arfer o osod nodau, sy'n gysylltiedig â dysgu oedolion, fod yn gysylltiedig â lefelau uwch o les.

Gallwch chi rannu dysgu trwy'r rhyngrwyd neu bost traddodiadol! Dyma rai enghreifftiau o wybodaeth iaith glir y gallech ei rhannu gyda thenantiaid:

  • Sut mae landlordiaid yn addasu eu gwasanaethau i gefnogi tenantiaid yn ystod yr argyfwng presennol?
  • Pa gymorth sydd ar gael i denantiaid sy'n agored i niwed a sut i gael gafael ar y gwasanaethau hyn?
  • Beth yw'r cynlluniau ar gyfer amddiffyn tenantiaid a staff os oes angen gwneud atgyweiriadau tra bo'r rheolau pellhau cymdeithasol cyfredol mewn grym?
  • Beth fydd y gweithdrefnau ar gyfer gwirio tân nwy ac ati?

Ar gyfer tenantiaid sydd eisoes yn cymryd rhan weithredol, neu ar gyfer eraill sy'n dymuno cymryd rhan yn ystod yr amseroedd cyfredol, fe allech chi gynnig cyrsiau sylfaenol / gloywi am Gyfranogiad Tenantiaid; Trosolwg o dai cymdeithasol; a Sut mae eich sefydliad yn cael ei ‘redeg’.  Gellir cynnal y rhain trwy Skype neu Zoom neu gellir eu hanfon fel dogfennau papur os mai dyna'r cyfrwng a ffefrir.  Gallai cwis sylfaenol ddilyn ymlaen o'r cyrsiau hyn gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau, i helpu i gydgrynhoi'r dysgu.

Mae llawer o landlordiaid eisoes wedi gwneud trefniadau ar gyfer grwpiau presennol i barhau i gwrdd trwy Skype ac ati er mwyn cadw cysylltiad, momentwm grŵp ac i barhau i ddysgu.   

Dewis arall yw postio neu e-bostio dogfennau at denantiaid er mwyn prawf ddarllen; gofyn iddynt ystyried a yw'r dogfennau'n hawdd eu deall / defnyddio iaith glir ac ati? Gallai'r archwiliad desg / cartref hwn hefyd fod yn ddull o gyfranogiad tenantiaid newydd a all yn aml gynnig persbectif gwahanol neu newydd.

A pheidiwch ag anghofio'r ffôn! Mae llawer o landlordiaid yn cynnal galwadau ‘lles’ gyda’u tenantiaid a allai fod yn agored i niwed neu yn ynysig: gellir defnyddio’r galwadau cyswllt hyn hefyd i annog tenantiaid i ‘gymryd rhan’ o bell.  Gofynnwch eu barn am wasanaethau yn gyffredinol a beth yw eu blaenoriaethau. Gallwch gynnig cyfle iddynt ddysgu mwy am eu landlord a'r gwahaniaeth y gall ac y mae cyfranogiad tenantiaid da wedi'i wneud. (Gall tenantiaid fod yn dawel eu meddwl nad oes rhaid iddynt ymrwymo i gymryd rhan yn y tymor hir os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny!) 

 

Cymryd Sylw

Beth a olygir gan ‘cymryd sylw’?  Mae'n ymwneud â bod yn fwy ymwybodol o'ch amgylchoedd a'r hyn sy'n digwydd ‘ar hyn o bryd’.  Eto, mae ymchwil yn awgrymu y gall hyn helpu eich lles a rhoi cyfle i chi ailedrych ar eich blaenoriaethau yn gyffredinol. Felly ... sut allwn ni addasu hyn i gyfranogiad sy'n cael ei wneud o bell? I’r tenantiaid mwy cysylltiedig gall cymryd sylw ymwneud â ‘thacluso’ eu gwaith papur! Efallai ei fod yn swnio'n frawychus ond mae'n therapiwtig didoli trwy daflenni a gwaith papur rydych chi wedi'i gasglu dros y blynyddoedd! Efallai bod peth ohono wedi dyddio neu wedi ei ddyblygu ond gallwch ddefnyddio’r amser i ‘dacluso’ a rhoi trefn ar eich papurau! Gall hyn fod yn ffordd o gadw’n actif, a gall ailddarllen dogfennau wrth i chi dacluso hefyd helpu gyda’r cam ‘dysgu’ a'ch atgoffa o rywbeth yr oeddech wedi anghofio amdano!

Gall cymryd sylw hefyd ymwneud ag edrych neu wrando mewn ffordd wahanol: e.e. gwrando go iawn i’r hyn y mae pobl yn ei ddweud!  Yn aml iawn, rydym yn euog o glywed yr hyn yr ydym eisiau ei glywed yn unig a dim ond ‘hanner gwrando’ ar bobl eraill! Gall hyn fod yn wir os ydych yn aelod o grŵp hirdymor lle rydym yn aml yn ‘gwneud rhagdybiaethau’ am yr hyn y bydd aelodau eraill y grŵp yn ei ddweud! Yn olaf, rydyn ni i gyd wedi bod yn euog o ‘wrando’ ar eraill tra ein bod ni wir yn meddwl am yr hyn rydyn ni eisiau ei ddweud neu ei ofyn nesaf!  Ceisiwch edrych ar eich tîm o safbwynt gwahanol!

I denantiaid nad ydynt yn gysylltiedig gall y cymryd sylw yma fod trwy ddefnyddio pob cyswllt sydd gennych â nhw, dros y ffôn, trwy'r post neu'n electronig fel cyfle iddynt 'gymryd sylw' o'u landlord a'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig.  Mae’r union weithred o fod mewn cysylltiad â nhw yn ystod yr argyfwng hwn yn cynnig cyfle iddynt ‘gymryd sylw’ er efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny.

 

Rhoi a Chysylltu

Nawr, yn fwy nag erioed, mae bod yn garedig â'ch gilydd yn bwysig iawn! Mae tystiolaeth yn dangos bod cyflawni gweithred o garedigrwydd unwaith yr wythnos yn gysylltiedig â chynnydd mewn lles.  Mae ynysu cymdeithasol yn golygu nad yw'n bosibl cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, ond fe allech chi ddefnyddio'r cyfle hwn i gysylltu dros y ffôn neu e-bostio tenantiaid eraill yr ydych yn eu hadnabod o'ch grŵp ffocws neu gymuned.  Bydd rhai grwpiau'n rhith-gwrdd pan fydd technoleg yn caniatáu. Mae codi’r ffôn i siarad â rhywun yn ffordd o ‘roi’ a ‘chysylltu’.  

Gall cysylltu hefyd olygu ymarfer ‘gwrando'n weithredol’: mae hynny’n golygu eich bod wir yn gwrando ar yr hyn y mae rhywun yn ei ddweud wrthych pan fyddant yn siarad â chi fel ‘cymryd sylw’ uchod.  Y ffordd honno rydych yn ‘rhoi’ eich amser, yn cysylltu ac yn cymryd sylw!

Fel landlordiaid mae'n debyg y byddwch chi eisoes yn rhoi ac yn cysylltu â'ch tenantiaid mewn ffordd newydd a mwy rheolaidd, yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu hystyried yn fregus.  Bob tro rydych chi'n gwneud hyn, rydych chi'n darparu gwasanaeth pwysig i denantiaid ac yn cwblhau'r camau i'w iechyd a'u lles (a'ch iechyd a lles eich hun!).  

 

Cadw’n Actif

Mae hyn i gyd yn gymharol, ac yn arbennig o heriol yn ystod y cyfnod cloi cyfredol! Er bod gweithgaredd corfforol rheolaidd yn gysylltiedig â chyfraddau is o iselder a phryder, nid yw'n golygu bod yn rhaid i chi redeg marathon i fod yn actif! I bobl â phroblemau symudedd gall cadw'n actif ymwneud ag ymarferion cadair freichiau neu ymestyn ysgafn neu godi'n achlysurol i gerdded o'u cadair i ochr arall yr ystafell.

O safbwynt cyfranogi, gallai cadw'n actif olygu awgrymu rhai ymarferion hawdd i denantiaid eu gwneud yn eu cartref: defnyddiwch eich cysylltiadau â gweithwyr iechyd proffesiynol i gynghori tenantiaid am ffyrdd diogel o gadw'n actif sy'n addas ar gyfer eu hamgylchiadau personol.  

 

Felly dyna chi …… mae yna lawer o orgyffwrdd yn y dulliau a drafodwyd uchod, ond yn gyffredinol mae'n atgoffa bod gan gyfranogiad tenantiaid ar bob lefel y gallu i gynnal iechyd a lles tenantiaid.