Dydd Mawrth 3 Rhagfyr, 11am-12pm
Rydym yn gyffrous i lansio prosiect newydd ar y cyd â’r Comisiwn Etholiadol i helpu tenantiaid tai cymdeithasol i deimlo’n fwy hyderus a gwybodus am ddemocratiaeth.
O ddeall datganoli a’r Senedd i ddysgu sut i gofrestru a bwrw eich pleidlais, mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chwalu rhwystrau a gwneud y broses ddemocrataidd yn hygyrch i bob tenant. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn gweithio i sbarduno sgyrsiau am ddemocratiaeth gyda gweithdai, hyfforddiant rhwng cymheiriaid, ac ymgyrchoedd wedi'u teilwra.
Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chreu newid parhaol a grymuso tenantiaid yng Nghymru. Drwy wrando ar denantiaid a dysgu beth sy’n gweithio orau, byddwn yn datblygu argymhellion ymarferol i wella’r broses o rannu gwybodaeth i bleidleiswyr mewn tai cymdeithasol.
Ydych chi'n denant neu'n gweithio mewn tai cymdeithasol? Ymunwch â ni i helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig lle mae pawb yn teimlo bod eu llais yn bwysig.
Byddwn yn lansio’r prosiect cyffrous hwn mewn sesiwn friffio amser cinio ddydd Mawrth, Rhagfyr 3ydd. Ymunwch â ni i ofyn cwestiynau, clywed mwy, a dysgu sut y gallwch chi a'ch sefydliad gymryd rhan.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i'r holl denantiaid, staff a rhanddeiliaid.
Cost:
Am ddim i aelodau TPAS Cymru yn unig
Pethau i'w gwybod:
-
Rhwydwaith ar-lein dros Zoom fydd hon
-
Ni fydd y sesiwnyn cael ei recordio
.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Grymuso cymunedau drwy ddemocratiaeth
Dyddiad
Dydd Mawrth
03
Rhagfyr
2024, 11:00 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mawrth 03 Rhagfyr 2024
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Eleanor Speer
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad