Swyddog Polisi a Chyfranogiad TPAS Cymru, Elizabeth, yn siarad am ein hymateb ni i Ymgynghoriad ar Gyflenwad Tai Fforddiadwy.

Cyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru – Llais i Denantiaid

 

Cefndir

Ym mis Ebrill, 2018, cyhoeddodd Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio adolygiad annibynnol o gyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2021, gydag awydd i barhau â'u rhaglen o adeiladu tai fforddiadwy ar ôl 2021, gan osod targedau sydd hyd yn oed yn fwy ymestynnol. Yn ogystal ag adeiladu mwy o dai fforddiadwy, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awyddus i wella dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni tai newydd yng Nghymru. Nod yr adolygiad felly yw cefnogi Llywodraeth Cymru a'r sector yng Nghymru i gyrraedd yr amcanion hyn mewn hinsawdd o bwysau parhaus ar y gwariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan banel annibynnol, a chaiff ei gadeirio gan Lynn Pamment, uwch bartner Price Waterhouse Coopers yn y Swyddfa yng Nghaerdydd. Ym mis Gorffennaf, 2018 cyhoeddodd y panel 'alwad am dystiolaeth' i sicrhau ymgysylltiad helaeth ar draws y sector tai. Roedd yr alwad am dystiolaeth wedi'i strwythuro o amgylch 10 ardal ffrwd gwaith sy'n ffurfio cwmpas yr adolygiad. I weld yr ardaloedd, gweler tudalen 4 o’r ddolen yma

Llais i denantiaid

Ynghyd ag eistedd ar y gweithgorau ar gyfer dau o'r meysydd ffrwd gwaith, croesawodd TPAS Cymru'r cyfle i roi ymateb i'r alwad am dystiolaeth.

Bu i ni grynhoi:

  • Y dylai barn a dyheadau tenantiaid a phreswylwyr fod wrth wraidd unrhyw gyfeiriad polisi newydd ar dai fforddiadwy. Dylent fod yn rhan o safonau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

 

  • Oes, mae gennym argyfwng tai a'r angen i gyflymu'r nifer o unedau a ddarparwn. Fodd bynnag, gall yr angen am ddarpariaeth gyflym, gost-effeithiol arwain at ddiffyg pwyslais ar "fywiadwyedd" ac 'oes' eiddo ac ansawdd ei ddyluniad. Mae pwysigrwydd creu cartrefi a chymunedau lle mae pobl eisiau byw ynddynt yn awr ac yn y dyfodol yn cael ei anghofio yn rhy aml.

 

  • Yn arbennig, rydym yn pryderu bod perygl o golli y "cymdeithasol" mewn tai cymdeithasol oherwydd y gyllideb a'r pwysau incwm sy'n rhoi mwy o ffocws ar ddychweliadau rhent. Mae cymorth grant yn offeryn allweddol wrth sicrhau bod landlordiaid yn gallu aros yn gymdeithasol. Mae hyn yn gofyn am gadw rhenti yn fforddiadwy a bod mewn sefyllfa hyderus i ddatblygu a dyrannu tai sy'n hanfodol ar gyfer y teuluoedd mwyaf bregus yng Nghymru

Darllenwch ein hymateb llawn yma.