Mae ein Cyfarwyddwr David Wilton yn nodi pam ffilm 'I Daniel Blake' yn rhaid i weld

 

Yr wythnos diwethaf, bu i Wales Online ysgrifennu erthygl ar y 9 rheswm pa mae rhai beirniaid yn dweud bod yn rhaid mynd i weld ffilm newydd Ken Loache ‘I, Daniel Blake’

O’r 9 reswm da, gallaf gytuno â’r rhan fwyaf. Os ydych chi eisiau ffilm drawiadol, wedi ei greu gan gyfarwyddwr ffilm wych, yna dyma’r un i’w weld. Alla i ddim dadlau â hynny.

Fodd bynnag, ni allwn beidio â theimlo bod Cyfryngau Cymru wedi methu pwynt pwysig: y dylai ffilmiau da eich ysbrydoli i weithredu.

Mae’r rheswm pam bod angen i chi weld y ffilm yn syml – mae angen i chi gythruddo.

Nid yw Ken Loach yn gwneud ffilmiau i wneud i chi deimlo’n dda. Does ganddo ddim diddordeb mewn faint o “likes” y rhowch chi iddo ar Facebook na faint o drydar a wnewch chi dros y “negeseuon a themâu dyfnach”, cyn i chi ddychwelyd i’ch bywyd bob dydd.

Mae wedi creu ffilmiau fel ‘Cathy Come Home’ i herio ein syniadau a newid y ffordd yr ydym yn meddwl.

Peidiwch mynd i weld ‘I, Daniel Blake’ a mynd adref a chario mlaen fel arfer. Mae Loach am i chi adweithio, ymateb, gwylltio. Mae o eisiau eich cythruddo. Ac yna bod yn rhan o’r newid.

Alla i ddim dweud wrthych beth ddylai’r newid yna fod, ond beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud, gwnewch hynny’n dda.

blake_poster

Rwyf hefyd eisiau gwneud pwynt ychwanegol – nad oes digon o sinemâu yn dangos y ffilm hon – arhoswch yn lleol a chefnogwch y rhai sydd yn.

Mae gan Cineworld 217 o sinemâu a chyfanswm o 2,000 sgrin – maent yn dangos y ffilm mewn 7. Dim un o’r rhain yng Nghymru.

Mae gan Odeon dros 100 o sinemâu a dros 850 sgrin – maent yn dangos y ffilm mewn 23 ohonynt. Dim un o’r rhain yng Nghymru.

Mae Vue ond yn ei ddangos mewn 3 lleoliad yn y DU gyfan. Nid oes yr un o’r rhain yng Nghymru.

O blith y cadwyni, yr unig un i sgrinio’r ffilm yng Nghymru yw Showcase yn Nantgarw, sydd yn ei dangos am 2 noson ganol wythnos.

Mae Cymru wastad wedi bod â chyfryngau annibynnol gwan; fodd bynnag, mae gennym rai sinemâu Celf / Indi / Cymunedol gwych sy’n dangos rhywfaint o ffilmiau anhygoel. Edrychwch ar restr eich sinema annibynnol leol i weld os ydynt yn dangos ‘I, Daniel Blake’. Ac os nad ydynt, rhowch alwad iddynt a gofynnwch iddynt pam. Yn ddiweddar, yn ystod yr haf, roeddwn yn siomedig i glywed nad oedd fy sinema indi lleol yn dangos ffilm newydd Cymraeg. Rhoddais alwad iddyn nhw ac anfonais neges drydar atynt, ac o ganlyniad ychydig wythnosau’n ddiweddarach bu iddynt ddangos y ffilm am 3-noson, a oedd yn agos iawn at gael ei werthu allan bob nos.

Yn ffodus i ni, nid yw bob man yng Nghymru yn ein siomi ac maent yn sgrinio ffilm ddiweddaraf Loach. I’r rhai ohonoch sy’n byw ger Caerdydd, mae Chapter yn Nhreganna yn ei sgrinio’r 3 gwaith y dydd am 2 wythnos gyfan. Os ydych yn byw yn agos, nid oes esgus gennych. Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ei sgrinio o 28 Hydref – 6 Tachwedd; Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn Abertawe yn ei sgrinio ddechrau Rhagfyr.

Yn y gogledd, mae eich dewisiadau yn cynnwys Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli, sy’n ei sgrinio’r ar 11-12Tachwedd; Theatr Clwyd ar 22- 23 Tachwedd; tra mae Neuadd Buddug yn y Bala yn ei sgrinio ar 25, 26 a 30 o Dachwedd. Mae’r Galeri yng Nghaernarfon yn ei ddangos ar 14 Rhagfyr – efallai nad yw’n hollol ffafriol i hwyl a llawenydd y Nadolig, ond i mi, dyna’r union bwynt.

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi glywed am y ffilm yma, ond rwyf wedi dal eich sylw, cliciwch y ddolen yma i weld y cipolwg swyddogol. Yna archebwch i fynd i weld y ffilm.

Adolygiad y Guardianhttps://www.theguardian.com/film/2016/oct/23/i-daniel-blake-ken-loach-review-mark-kermode