Mae canlyniadau o’n harolwg Pwls Tenantiaid 

Tenantiaid mewn Tai Cymdeithasol (LCC, ALl) eisiau pethau gwahanol i’r rheini yn y Sector Rhentu Preifat (SRhP)

 

Tenantiaid Tai Cymdeithasol ar Fforddiadwyedd Rhent

Tenantiaid y Sector Breifat ar Fforddiadwyedd Rhent


Mae canlyniadau o’n harolwg Pwls Tenantiaid diweddar yn dangos bod 76% o denantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol yn teimlo bod eu rhent yn fforddiadwy tra mai dim ond 37% o denantiaid yn y SRhP oedd yn teimlo bod eu rhent yn fforddiadwy.

Yn yr un modd, dim ond 38% o denantiaid sy'n byw mewn tai cymdeithasol a oedd yn awyddus i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain, o'i gymharu â 80% o denantiaid yn y SRhP sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Nawr beth mae hyn yn ei olygu hyd yn oed? Beth yw'r ffactorau sy'n arwain at y gwahaniaethu hwn yn y canfyddiad?

Y peth cyntaf ddaeth i'm meddwl oedd ansawdd tai mewn tai cymdeithasol (rhai, nid bob un). Gellir dadlau bod y safonau y mae'r eiddo wedi'u hadeiladu iddynt yn well na'r rhai yn y SRhP. Yna wrth gwrs, mae yna waith cynnal a chadw ac atgyweirio i'r eiddo. Mewn tai cymdeithasol, caiff gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ei olrhain a chyhoeddir y canlyniadau; rhywbeth nad ydym yn ei weld yn y SRhP.

Heb anghofio diogelwch daliadaeth. Mae landlordiaid cymdeithasol eisiau i'r tenantiaid gael diogelwch hirdymor. A yw hyn yn wir yn y SRhP? Mae nifer o landlordiaid 'damweiniol' neu 'ran amser’ yn cynnig cyfnodau rhybudd byr sy'n rhoi tenantiaid mewn perygl. Efallai bod rheswm arall pam bod tenantiaid tai cymdeithasol yn fwy cadarnhaol ynghylch rhentu yn hytrach na bod yn berchennog yn gysylltiedig â lefel yr ymgysylltiad sydd ganddynt gyda'u landlordiaid a'r gymuned.

Yna mae'r elfen o genedlaethau. Mae rhai pobl yn cael eu geni i mewn i dai cymdeithasol ac efallai y bydd yr eiddo yn cael ei drosglwyddo iddynt, a allai wedyn barhau trwy'r cenedlaethau. Efallai bod hyn yn golygu mai dyma'r arferiad yn eich teulu ac efallai nad oedd prynu eiddo wedi cael ei ystyried hyd yn oed. Hynny yw, pam fyddech chi'n ystyried prynu'ch eiddo eich hun pan mae cymaint o fanteision i rentu mewn tai cymdeithasol; heb anghofio bod prynu tŷ yn dod ar draul sylweddol.

Mae ein harolygon pwls yn aml yn dangos lefelau is o fodlonrwydd yn y SRhP. Rwyf wedi crybwyll rhai o'm meddyliau uchod ond beth ydych chi'n ei feddwl? Hoffem glywed eich barn ar hyn. Cysylltwch â’n harweinydd yn y maes SRhP [email protected]