Pam na all bob ystafell mewn gwesty fod yn rai hygyrch? 

Gallwn fod yn asiantau o newidiadau a dylem fod yn defnyddio ein pŵer i sicrhau bod newidiadau cadarnhaol yn digwydd.

“We need to make every single thing accessible to every single person with a disability.” - Steve Wonder

 Stevie Wonder - hotel accessability 

 

Fel Sector Tai, rydym yn aml yn defnyddio gwestai ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau.  

Yn ddiweddar, arhosodd fy ngwraig a minnau yng Ngwesty'r Village yn Abertawe, a sylweddolais ein bod mewn ystafell hygyrch. Roeddwn wrth fy modd, gan i mi gredu fod bob ystafell yn y gwesty yn rai hygyrch. Yn anffodus, roeddwn wedi camgymryd a dim ond 1 o 6 ystafell hygyrch ydoedd allan o 145 o ystafelloedd yn gyfan gwbl.  

Arweiniodd hyn at drafodaeth yn ddiweddarach yn y dafarn, a daeth y dyfyniad uchod gan Stevie Wonder i'r meddwl.

Pam na all bob ystafell mewn gwesty fod yn rai hygyrch?

Meddyliwch am y peth…pwy sydd am golli allan os oes gan bob toiled gymhorthion sy’n plygu nôl?

A fyddech chi wir yn sylwi os yw ffrâm y drws ychydig yn fwy lled (i fod yn addas ar gyfer cadair olwyn) neu fod y basn golchi dwylo ychydig yn is?

Oce, mae cawod y gallwch gerdded mewn iddo yn eich atal rhag cael baddon.  Gwir – ond faint o bobl sy’n cael baddon mewn gwesty pris rhesymol?  Nid y Ritz ydyw. Mae cawod y gallwch gerdded mewn iddo yn llawer mwy ymarferol.

Arhosais mewn gwesty yn Lloegr y llynedd ble’r oedd y gawod y tu mewn i faddon gydag ochr uchel. Yr hyn yr oedd yn ei wneud yn waeth oedd bod y baddon wedi ei osod ar blinth fel bod angen dringo 75cm neu 2.5 troedfedd i fynd i mewn iddo (fe wnes ei fesur!).   Chwerthinllyd, ac yn anodd iawn i lawer o bobl abl hyd yn oed.

A beth am y cordiau tynnu brys - y ddadl gan y gwesty yw y byddent yn cael eu camddefnyddio gan yr haid o feddwon sy'n aros yn y gwestai cyllideb / canol pris bob penwythnos.   Does gen i ddim amser i’r ddadl hon, rhowch ddirwy fawr ar eu cerdyn credyd am eu camddefnyddio. Neu os bydd hynny'n methu - ffoniwch yr heddlu. Ni fydd yn cymryd llawer o ddirwyon / erlyniadau cyn iddynt ddysgu peidio â gwneud hyn!

Felly, beth sydd gan y gyfraith i’w ddweud am hygyrchedd gwestai?

Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 h.y.  ‘…Hawliau mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau...’.

Llawer rhy annelwig i mi….felly siaradais ag uwch swyddog cynllunio mewn awdurdod lleol yng Nghymru gan fy mod eisiau gwybod pa reolau cynllunio sy’n cael eu hystyried wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer gwestai. Cymrais yn ganiataol, os ydych yn adeiladu gwesty, yn sicr bod rhaid gwneud rhywfaint o ymdrech hygyrchedd yn yr ardaloedd cyffredin? Beth am y nifer o ystafelloedd hygyrch yn y gwesty?  Cefais sioc i ddarganfod nad oes unrhyw reolau na chanllawiau yn bodoli, yn ôl fy ffrind.  Mae hyn yn warthus. Fel cenedl, mae gennym ein galluoedd deddfu ein hunain. Yn sicr Cymru, gallwn ni wneud yn well?

Nid yw hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol yn unig, dylai wneud synnwyr ariannol. Gallaf aros mewn ystafell hygyrch, ond ni all pobl ag anableddau penodol aros mewn un anhygyrch, felly beth am wneud pob ystafell yn hygyrch fel y gall unrhyw un eu defnyddio?

Felly, os nad yw'r gyfraith yn mynd i ddarparu'r hygyrchedd sydd ei hangen arnom, mae angen i ni fynnu gwell gan y gwestai a ddefnyddiwn.   Fel sector, rydym yn ymdrechu i sicrhau lleoliadau sydd â digon o ystafelloedd hygyrch. Nid yw hygyrchedd yn ymwneud â'r anableddau gweladwy yn unig. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, (mae llawer o actifyddion tenantiaid yn bobl hŷn) sy'n cael trafferth gyda chawod / baddonau gydag ochrau uchel a byddent yn croesawu'r gefnogaeth ychwanegol sydd â thoiled hygyrch ac ati. 

Mae angen i ni fod yn barod i ddefnyddio ein pŵer prynu a symud ein busnes i westai eraill sydd â mwy o hygyrchedd. Gallwn fod yn asiantau o newidiadau a dylem fod yn defnyddio ein pŵer i sicrhau bod newidiadau cadarnhaol yn digwydd.

 

David Wilton

@Dai_TPASCymru

My LinkedIn profile 

 

O.N. Cefais neges gan fy ffrind o’r adran Gynllunio bore ‘ma ‘…A wnest ti anfon cwyn at Croeso Cymru wythnos diwethaf?  Yn ôl bob sôn, maent wedi derbyn cwyn am yr union beth…’  Mae’n ymddengys nad wyf ar fy mhen fy hun.