Mae rhieni sengl yn ddwywaith mwy tebygol o fyw mewn tlodi na rhieni cwpl ac yn fwy tebygol o brofi unigrwydd, unigedd a stigma

 

 

 

Mynd i'r afael â'r her i rieni sengl mewn tai cymdeithasol

 

Maint yr her

Mae bron i 90,000 o rieni sengl yng Nghymru1 ac eto maent yn grŵp anweledig, ac yn aml yn unig oherwydd materion hygyrchedd, tlodi a'r stigma sy'n gysylltiedig â bod yn rhiant sengl mewn cymdeithas. O'm mhrofiad i o fod yn rhiant sengl, dwi'n deall heriau unigrwydd ac unigedd, y gofynion o orfod rheoli popeth - neu feddwl bod yn rhaid i mi.

 

Mae rhieni sengl yn ddwywaith mwy tebygol o fyw mewn tlodi na rhieni cwpl2 ac yn fwy tebygol o brofi unigrwydd, unigedd a stigma3. Ym mis Mawrth 2018, roedd 59,915 o rieni sengl yn hawlio lwfans ceisio gwaith4. O ganlyniad i amlygiad i'r ffactorau negyddol hyn, mae rhieni sengl mewn perygl uwch o ddatblygu problemau iechyd meddwl5 ac mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod mamau sengl yn cael oddeutu tair gwaith nifer yr achosion o byliau o iselder, o gymharu â grwpiau eraill6. Er bod rhywfaint o gefnogaeth yng Nghymru ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl sydd wedi'u diagnosio, mae llawer o'r ddarpariaeth gyfredol yn esgeuluso'r angen i ddarparu gofal plant, neu gymorth penwythnos, sy'n rhwystr mawr i rieni sengl gael at y ddarpariaeth hon. Mae rhieni sengl yn pwysleisio eu bod yn aml yn amharod i ofyn am help oherwydd eu bod yn poeni am gael eu barnu fel ‘rhieni gwael’ (SPW, 2018)

 

Canfyddiadau rhieni sengl mewn tai cymdeithasol

Wrth ymgysylltu â thenantiaid sy'n rhieni sengl o bob cwr o Gymru, roedd thema gyson bod angen grwpiau penodol ar gyfer rhieni sengl oherwydd “rydych jyst yn deall eich gilydd pan mae'n rhiant sengl arall”. Pwysleisiodd llawer eu bod yn teimlo'n hynod o unig ac, mewn rhai achosion, nad oedd eu darparwr tai yn onest am gyflwr yr eiddo y byddent yn symud i mewn iddo. Yn gyffredinol, roedd hyn yn gysylltiedig â bod yna ddim lloriau yn eu heiddo ac roeddent yn teimlo bod hyn yn rhoi eu plant mewn perygl. Mae rhai ohonynt wedi bod yn yr eiddo am dros flwyddyn ac yn dal methu fforddio lloriau. Crybwyllodd un fam ei bod wedi bod yn "tynnu pinnau tacio oddi ar y grisiau ac yn trwsio'r pren arnynt, gan lenwi tyllau ym mhob ystafell, sandio a thrwsio bylchau i stopio creaduriaid rhag dod i mewn trwy sgertin uchel a gadael olion o gwmpas ein heiddo a'r waliau sydd newydd gael eu paentio” Nododd un arall  "Mae mor ofnadwy (heb loriau) mae'n gwneud i chi deimlo na allwch ddarparu ar eu cyfer ... Roeddwn mor yspet... ac roeddwn wedi dod o loches i fenywod felly doedd gen i ddim ar ôl o'n cartref cynt. Doeddwn i ddim yn gwybod na fyddai unrhyw loriau. Roeddwn i wedi dychryn".

 

_______________________

[1] Stats Cymru, 2018

2 Ardal Gwaith a Phensiynau 2014

3 Prifysgol Bath, 2012

4 Stats Cymru, 2018

5 The Lonely Society, MHF, 2010

6Tragosz et al, 2003

 

Efallai eich bod yn gofyn i'ch hun; pam mae hyn yn wahanol i unrhyw un arall sy'n symud i mewn i dai cymdeithasol? Wel, y gwahaniaeth ydi; rydym yn ei wneud ar ein pen ein hunain. ‘Does neb i bwyso ar, ‘does neb i gyfrannu at gyllid, ‘does neb i ddweud wrthych y bydd 'y cyfan yn ocê’. Mae'r mathau hyn o brofiadau niweidiol yn rhoi rhieni sengl mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl (The Lonely Society, MHF, 2010).

Mae darparwyr tai cymdeithasol mewn sefyllfa unigryw ac mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu gwasanaethau i gefnogi rhieni sengl. Yn ogystal â rhoi iddynt rwydweithiau i leihau unigrwydd ac unigedd ac yn ei dro yn gwella iechyd meddwl (Prifysgol Bath, 2012). Er mwyn eu galluogi i ddarparu'r gefnogaeth hon, mae rhieni sengl wedi gwneud argymhellion.

 

Argymhellion gan Rieni Sengl i Ddarparwyr Tai Cymdeithasol

  • I bobl sy'n newydd yn yr ardal heb unrhyw berthnasau na ffrindiau gerllaw, dylid cael grwpiau cyfarfod a chyfarch

  • Gweithgareddau cymunedol lle gallwch gwrdd â'r bobl leol ac y gallant weld nad yw rhieni sengl bob amser sut y maent yn cael eu portreadu yn y cyfryngau. Bydd pobl yn teimlo'n gyfarwydd ac yn fwy diogel

  • Dylai glaswellt yr ardd gael ei dorri cyn i chi symud i mewn am resymau diogelwch (nodwyddau a gwydr)

  • Naill ai darparu lloriau neu ddarparu talebau tuag at loriau a gosodiad, yn ddelfrydol lloriau yn yr eiddo cyn symud i mewn i wneud y broses yn llai brawychus ac fel ei fod yn teimlo fel cartref.

  • Wrth gynnal digwyddiad neu gasgliad, cael ystafell ar wahân i blant â darparwyr gofal plant. Yna bydd y rhieni'n cael seibiant ond maen nhw'n gwybod y gallant fynd a gweld eu plant pan fyddant yn dewis. Mae dim ond talu am ffioedd gofal plant yn arwain at yr her o ddod o hyd i ofal plant.

  • Darparu mynediad at y rhyngrwyd neu gyfrannu’n ariannol ato fel y gall pobl weithio oddi adref pan fydd y plant yn y gwely os ydynt yn rhy ifanc i gael oriau gofal plant.

  • Gallai'r darparwr tai gynnig 'cwt gwaith' (sied fach yn yr ardd sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a goleuadau) fel y gallai rhieni fod yn fwy brwdfrydig am eu rhagolygon gwaith. Byddai rhieni yn fwy parod i wneud ymchwil, cychwyn busnes o'r cartref, mynd yn hunangyflogedig neu gynnal gweithdai yno i eraill yn eu cymunedau fel y gallant rannu eu sgiliau.

  • Gellid gweithredu cynllun tasgmon ar gyfer cymorth ymarferol megis symud eitemau trwm, rhoi pethau yn yr atig ac ati.

  • Os ydych chi'n symud i'r ardal, byddai'n ddefnyddiol i'r darparwr tai gynnig gwybodaeth am grwpiau a beth mae meithrinfeydd ac ysgolion lleol yn eu rhoi ar waith.

  • Gwneud y broses o ymgeisio yn haws a darparu gweithiwr achos er mwyn i chi allu datblygu perthynas gyfforddus. Pan fyddwch yn gadael sefyllfa o gam-drin domestig, mae angen i chi deimlo eich bod yn gallu ymddiried mewn rhywun. Yn enwedig pam mae’n ardal newydd sbon.