Yn 2018, gadewch i ni gyd wneud ein cyfathrebu’n fwy hygyrch.  Dyma 4 cam syml! 

Yn 2018, gadewch i ni gyd wneud ein cyfathrebu’n fwy hygyrch.

Cyfathrebu clir i bawb

 

Fel y gwyddoch mae’n debyg, mae TPAS Cymru yn eiriolwr cryf:

  • Dros wella cyfathrebu â thenantiaid yn y sector Dai
  • Dros wella hawliau a phrofiadau pobl anabl

 

Felly, roeddwn yn meddwl y byddwn yn gosod ychydig o newidiadau syml ond effeithiol y gallem eu gwneud yn 2018 er mwyn i ni gyd rhoi cychwyn arni.

1)    Gwella e-byst dwyieithog.

Gadewch i ni gychwyn gydag un syml: E-byst dwyieithog ar gyfer cylchlythyrau a chyfathrebu sefydliadol.  

Faint ohonoch sydd wedi derbyn e-bost sy'n dechrau gyda “sgroliwch i lawr ar gyfer fersiwn [Saesneg/Cymraeg]”?  Mae’n ddrwg gen i ddweud ond mae hyn yn her fawr i rywun sydd â nam ar eu golwg ac yn defnyddio darllenydd sgrin.  Fodd bynnag, mae yna ateb syml - pe baech yn newid hyn i ddolen gliciadwy h.y. “cliciwch yma am y Saesneg isod” yna gall y darllenydd sgrin wneud hynny’n syth.

Nid yw'n anodd ei weithredu a byddai'n welliant mawr i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin.

Bydd nifer o’n darllenwyr yn adnabod ymgyrchydd anabledd, Paul Clasby, (tenant Tai Ceredigion). Mae e’n defnyddio darllenydd sgrin ac felly yn naturiol yn teimlo’n gryf am hyn. Mae'n galw am i bob sefydliad wneud hyn.

Mae TPAS Cymru wedi gwrando ar Paul ac mae ein cyflenwr gwefan gwych, ITPie, wedi gwneud y newidiadau i’r 4 templed safonol y defnyddiwn ar ein platform Mailchimp o fewn awr neu ddwy.  Maent hefyd wedi rhoi cyfarwyddiadau i ni ar sut i ychwanegu hyn i e-byst dwyieithog personol yr ydych yn eu hanfon trwy'ch system e-bost personol safonol, fel Outlook.

Felly, mae'n amlwg yn welliant hawdd i'w wneud a all wneud bywyd yn haws i'r rhai sy'n defnyddio darllenydd sgrin, felly pam nad yw sefydliadau eraill yn ei wneud?

Os nad yw eich adran TG/Gwefan yn gallu gwneud hyn i chi, rhowch wybod i ni ac fe ofynnwn i  ITPie os yw’n iawn i ni rannu eu harweiniad gyda chi.

 

2)    Isdeitlau mewn Fideo.

Mae fideo yn sianel gyfathrebu allweddol wrth ymgysylltu â thenantiaid a'r gymuned ehangach. Os ydych chi'n defnyddio unrhyw gyfryngau cymdeithasol, mae'n debyg y byddwch chi'n gwylio llawer o fideos byr y dydd yn anymwybodol.  Rwy'n credu y gallwn ni gyd gytuno bod is-deitlau yn allweddol i bobl â nam ar eu clyw, ac y dylem oll eu defnyddio yn awtomatig.  Ond a oeddech chi hefyd yn gwybod bod 85% o fideos ar Facebook yn cael eu gwylio heb sain felly heb isdeitlau, nid yw eich neges yn cael ei glywed.

Gall defnyddio fideo fod yn offeryn cyfranogi effeithiol a defnyddiol - os caiff ei wneud yn iawn. Er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio'r offeryn hwn yn gywir ac i'r budd mwyaf posibl, beth am archebu lle ar gwrs 1 diwrnod rhagorol TPAS Cymru ar Gyfranogiad Fideo? Mae'n gwrs cost effeithiol ac anffurfiol ac ymarferol sy'n cynnwys sicrhau bod hygyrchedd yn gywir mewn oes ddigidol. Mae adborth gan gynrychiolwyr wedi bod yn eithriadol, felly am ragor o wybodaeth neu i archebu'ch lle, cysylltwch â ni: [email protected]

3)    Her y Dogfennau PDF

Mae gan bob gwefan ddogfennau PDF i’w lawrlwytho.  Bydd unrhyw un mewn rôl Cyfathrebiadau wedi rhoi dogfen PDF ar wefan ar ryw adeg neu’i gilydd. 

Rydym yn hoff o PDF oherwydd mae’n cyfyngu’r ddogfen o ran ei edrychiad a’i deimlad, mae’n ei wneud yn fwy anodd i wneud newidiadau neu ei ddiwygio, ac mae’n creu allbwn safonol.

Fodd bynnag, gadewch i ni fyfyrio ar hyn am eiliad…. ‘rydym yn fwriadol yn ei gwneud yn anodd ei addasu’ - ac eto ar gyfer rhai pobl ag anghenion hygyrchedd, byddant angen newid steil a maint y ffont, y bylchau rhwng y geiriau a’r brawddegau a’r cyferbynnedd i ddiwallu eu gofynion unigol. 

Mae darparu fformat amgen megis dogfen Word neu Open Source fel bod y defnyddiwr yn gallu addasu’r ddogfen, hefyd yn rhywbeth y mae’r ymgyrchydd Paul Clasby yn galw amdano.  Ynghyd â rhan fwyaf o Gymru, rydym ni yn TPAS Cymru yn cydnabod ein bod angen gwella hyn ac yn 2018 fe wnawn.

4)    Ffurfdeip/Ffont

Os fuoch yn ein Seminar llwyddiannus ar Arfer Gorau, byddech wedi fy nghlywed yn siarad am pam fod ffont yn bwysig. Buaswn yn gallu ysgrifennu tudalennau ar hyn ond gadewch i ni gychwyn gydag ychydig o awgrymiadau syml y gellir eu rhoi ar waith yn rhwydd yn 2018.

1)      Honnir bod gan 10% o bobl Cymru rhyw ffurf o Ddyslecsia.   Mewn astudiaethau gwyddonol, mae ffurfdeipiau fel Helvetica, Courier, Arial a Verdana wedi eu profi i fod y gorau i bobl â Dyslecsia. Pam? Oherwydd eu bod yn ffont sans-serif, rhufeinig ac unlled.  Nid oes angen i chi wybod beth mae hyn yn ei olygu, ond os oes unrhyw amheuaeth, defnyddiwch un o’r rhai a nodwyd uchod ar gyfer eich cyfathrebu.  Yn TPAS Cymru, rydym yn defnyddio Myriad sydd hefyd yn profi'n bositif.

2)      Mae yna ffurfdeipiau eraill wedi eu dylunio yn arbennig ar gyfer Dyslecsia. Y ffont am ddim mwyaf poblogaidd yw OpenDyslexic sy’n ymgorffori’r holl ddamcaniaeth gorau ar y pwnc hwn h.y.

  • Esgynyddion a disgynyddion da (a yw hyd y llythyrau fel ‘y’ a ‘g’ yn sefyll allan ddigon)
  • ‘b’ a ‘d’, a ‘p’ a ‘q’ gwahanol – nid yn ddelweddau drych.
  • ‘g’ ac ‘a’ yn edrych fel llawysgrifen

Mae mwy fodd bynnag, mae’n werth nodi nad yw'r profion cyfyngedig wedi profi ei bod yn well mewn ymarfer o'i gymharu â'r theori gadarn.

3)      Cael gwared ar y blociau o destun trwm bach.  Rhowch le i'ch testun anadlu. Ystyriwch hyd y brawddegau, maint y ffont, bylchiad llinellau ac ati.

4)      Osgowch ddefnyddio Italics.   Mae profion â phobl sydd â dyslecsia yn dangos fod nifer yn cael trafferth â Italics - mewn gwirionedd maent yn cael trafferth fawr.  Er enghraifft, mae profion safonol ar Arial yn gadarnhaol iawn, fodd bynnag mae Arial mewn Italics yn profi’n wael ofnadwy.

5)      Amser i gael gwared â Comic Sans. Nid yw'n gyfrinach fy mod yn casáu Comic Sans. Rhan o'r atgasedd hwn yw y bydd rhywun yn amddiffyn y ffurf-deip llyfr comig yma'n wythnosol drwy ddweud ‘mae’n wych ar gyfer plant â dyslecsia’ neu ‘mae’n well ar gyfer plant’. Alla i ddim cytuno â hyn.  Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai’r unig reswm y mae’n gweithio yw oherwydd ei fod yn bodloni’r meini prawf o fod yn ‘sans-serif, rhufeinig ac unlled’ ond mae’r ffurfdeipiau a nodwyd uchod yn profi’n llawer gwell.  O ran defnyddio Comic Sans â phlant, mae'n ymddangos, oherwydd ei orddefnydd, mae bellach yn fath o fyth trefol bod well gan blant y ffont yma. Os ddefnyddiwch chi Ddewisiadau Eraill i Comic Sans  yna byddwch yn cael canlyniadau gwell. Mae hefyd yn werth nodi bod astudiaeth o blant rhwng 7-9 mlwydd oed yn dangos mai’r factor fwyaf llwyddiannus ar gyfer darllen yw ffont o faint mwy, nid y math o ffont.

 

Os yw hyn wedi taro nodyn gyda chi, efallai y bydd gennych ddiddordeb gwybod mai un o awdurdodau blaenllaw Ewrop ar hygyrchedd digidol yw asiantaeth o'r enw Dig Inclusion a’r Cyfarwyddwr yw Grant Broome o Gastell-nedd. Cymrwch gip ar eu fideo 4 munud: “An Introduction to Digital Accessibility   ac os ydych o ddifrif am gynhwysiad digidol – ac fe ddylen ni gyd fod – yna cysylltwch â nhw am ragor o wybodaeth.

Rydym i gyd yn gwybod y dylem wneud ein cyfathrebu yn fwy clir a hygyrch i bawb ac rydw i wedi cynnig ychydig o awgrymiadau syml yn y blog yma, ond er eu bod yn newidiadau syml, gallant gael effaith fawr.

Rydym yn TPAS Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cyfathrebu'r gorau y gall fod ac rydym yn dysgu ac yn gwella o hyd.  Byddai'n wych pe gallem i gyd wneud 2018 y flwyddyn lle'r ydym yn gweithio i greu cyfathrebu clir i bawb.

 

David Rhys Wilton

Cyfarwyddwr

TPAS Cymru

[email protected] 

 

Follow TPAS Cymru on Linkedin