David yn rhoi ei safbwynt ar yr hyfforddiant Rhenti Doeth Cymru i landlordiaid ac asiantaethau a’r hyn y byddai’n hoffi ei weld yn newid

Fy safbwynt i wedi gwneud hyfforddiant Rhentu Doeth Cymru

 

 

Cefndir:  Roedd lansiad Rhentu Doeth Cymru a oedd yn rhoi trwydded i landlordiaid y sector rhentu preifat, yn ddatblygiad i'w groesawu ar gyfer rhentu preifat yng Nghymru.   Penderfynodd rhai o aelodau TPAS Cymru (gan gynnwys fi fy hun) wneud yr hyfforddiant Landlord ac Asiant cyfunol i weld beth mae'r hyfforddiant hwn yn ei ddarparu ac a yw'n cefnogi Landlordiaid ac Asiantau i godi safonau. 

Roedd wedi'i gyflwyno'n dda, yn hawdd ei ddilyn ac yn ddiddorol, fodd bynnag cefais fy hun yn myfyrio ar rai pwyntiau. Nid yw’r rhan fwyaf yn ymwneud yn uniongyrchol â Rhentu Doeth Cymru ond mwy ynghylch rheoliadau tai ehangach Cymru.   

 

1)  Cynlluniau Gwneud yn iawn

Rhan 1:  ‘Mae tri phrif gynllun gwneud yn iawn y mae Rhentu Doeth Cymru yn eu cydnabod.  Faint o denantiaid sy’n ymwybodol o’r cynlluniau hyn? Allwch chi eu henwi i gyd? 

Rhan 2: Yn ystod chwe mis cyntaf tenantiaeth, mae gan denantiaid hawl i gyfeirio'r rhent at y pwyllgor asesu rhent i'w adolygu os ydynt o'r farn bod y rhent yn uwch na rhent y farchnad

Oeddech chi’n gwybod hyn?  Ydych chi'n meddwl bod y tenant cyffredin yn gwybod bod y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn bodoli?

Gweithred: Mae angen i ni weld y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i denantiaid fel rhan o denantiaethau newydd. Rydym yn gwybod rhai landlordiaid yn gwneud hyn, ond mae angen mwy. Nid yw hwn yn fater landlord yn erbyn tenantiaid. Mae un o'r cynlluniau gwneud yn iawn yn helpu i ddatrys methiannau darparwyr Cyfleustodau a Thelathrebu sy'n gallu effeithio ar gyllid tenantiaid.

 

2)Y rheol 200 milltir?  ‘Mae’n ofynnol i landlordiaid sy’n byw y tu allan i Loegr, yr Alban a Chymru neu mwy na 200 milltir o’u heiddo rhent benodi asiant lleol.

Ydi 200 milltir yn briodol?   Gallech fod yn berchen ar eiddo yn Abercastell, Sir Benfro ac yn byw ym Mirmingham (196 milltir i ffwrdd) ond mae bron yn daith 5 awr o yrru di-stop yn ôl Google Maps.  Yr un peth â landlord o Grantham sy’n berchen ar un o'r ail gartrefi niferus yn Abersoch. Ychydig o dan 200 milltir a thaith ddi-stop o 5 awr a 10 munud.  Os ydych yn byw yn Dumfries (yr Alban) allwch chi reoli eiddo yn uniongyrchol yn Nyffryn Clwyd?  Gadewch i ni hefyd grybwyll yng Nghymru - mae’n 199 milltir o Gaergybi i Gaerdydd gyda thaith heriol o 4 awr 40 munud di-stop. 

Mae’r rheol 200 milltir hwn yn galluogi landlordiaid absennol.   

 

3)Tystysgrifau Perfformiad Ynni a Thai Amlfeddiannaeth.  ‘Dylid darparu copi llawn o dystysgrif perfformiad ynni i'r tenant, ar gael mewn marchnata / hysbysebu.  Nid oes angen tystysgrif os yw’ryn cael ei rhentu fesul ystafell ar gytundebau ar wahân’.

Felly, a yw tai amlfeddiannaeth yn eithriedig?  Pam?  - ar wahân i fyfyrwyr, mae rhai o'r bobl dlotaf, fwyaf anobeithiol y gymdeithas yn byw mewn tai amlfeddiannaeth.  Nid oes safonau tystysgrif perfformiad ynni ar gyfer eu cartrefi?   Ydi hyn yn iawn?

4)Tai Amlfeddiannaeth.  Methiant i gydymffurfio â chynlluniau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth.  Roeddwn ychydig yn siomedig gyda'r canlyniadau ar beidio â chydymffurfio. Ychydig o ddirwyon ariannol, a dyna'r oll.

Mae gan dai amlfeddiannaeth nifer o risgiau sy'n gysylltiedig â diogelwch tân, iechyd yr amgylchedd, allanfeydd tân, addasrwydd ar gyfer pobl sy'n agored i niwed ac ati.  Mae tai amlfeddiannaeth hefyd yn pwynt fflach go iawn mewn rhai cymunedau, ac mae angen eu hystyried yn ofalus. Dylai bod creu tai amlfeddiannaeth heb y trwyddedau cywir yn golygu canlyniadau cryfach.

 

Pynciau yr hoffwn fod wedi gweld mwy amdanynt:

i) Cydraddoldeb/ gwahaniaethu - roedd yr adran hon yn rhy ysgafn yn fy marn i.  Os ydym am godi safonau, roedd angen mwy ar gyfer y landlordiaid, gan gynnwys rhai cwestiynau cwis heriol.  Fel sector, rhaid i ni wneud mwy i fynd i'r afael â hyn a dylai'r hyfforddiant gael mwy na pharagraff yn dweud 'peidiwch â gwahaniaethu!’   Dw i’n siŵr y byddai Tai Pawb yn hapus i gynorthwyo mewn cryfhau’r adran yma.

ii) Cymdeithasau Landlordiaid  - eto, dim ond crybwylliad byr. Dylai landlord gwybodus sydd â chontractau model, briffiau diweddaraf o ddeddfwriaeth, mynediad at gymorth a chanllawiau ac ati fod o fudd i'r tenant hefyd a dylai helpu i godi safonau. Mae angen mwy na pharagraff byr arno.

Pynciau nad ydw i dal dim doethach amdanynt ar ôl gwneud yr hyfforddiant:

i)  Trwyddedau:  Trwydded yw pan ganiateir i rywun feddiannu eiddo ond nad oes ganddo denantiaeth  Dw i angen cael esiamplau i ddeall mwy.

ii)  Deddf Rhentu Cartrefi. Bydd y ddeddf hefyd yn helpu i warchod pobl rhag cael eu troi allan am gwyno am gyflwr yr eiddo.  Dw i’n gobeithio’n wir, ond eto, dw i’n hoffi esiampl neis i helpu pobl i ddeall.

iii)                 Caiff gwerthwyr tai eu rheoleiddio gan Reoliadau Gwyngalchu Arian, ond nid yw Asiantau Gosod yn.   - dim yn siŵr pam.  Byddwn wedi meddwl y byddai asiant gosod yn le cynhyrchiol i gychwyn y lleoliad ac i haenu cyfnodau o wyngalchu.

 

Pwynt olaf:   Fe wnes y cwrs ar-lein mewn 1 diwrnod ac mi basiais. Ni allwch fynd i mewn i ddeunydd Rhentu Doeth Cymru ar ôl hynny na thalu i lawrlwytho neu gael copi caled i gyfeirio ato yn ddiweddarach. Trueni mawr oherwydd yr oll sydd gen i yw ychydig o nodiadau bratiog.  Erbyn wythnos nesaf fe fyddaf yn cael trafferth cofio Adran 8 a’r seiliau ar gyfer meddiannu, dw i wedi anghofio’n barod beth yw’r term cyfreithiol ‘Estopel’!    Buaswn wedi hoffi cyfeirio at y deunyddiau yn y dyfodol.

 

David Wilton  

TPAS Cymru