Taliadau Gwasanaeth (Cyfres yr Agenda 3)
Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord
Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord. Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord. Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
Taliadau Gwasanaeth
Mae rhai tenantiaid yn talu taliadau gwasanaeth am yr eiddo maen nhw'n byw ynddo. Mae taliadau gwasanaeth yn talu costau cynnal a chadw ardaloedd neu wasanaethau a rennir /cymunedol ar gyfer eich ystâd a/neu floc o eiddo.Mae taliadau gwasanaethau yn wahanol i'r rhent y mae tenantiaid yn ei dalu. Mae rhent yn cynnwys cynnal a chadw, atgyweiriadau, a chost rheoli eich cartref.
Mae landlordiaid yn aml yn darparu ystod eang o wasanaethau ychwanegol, mae'r rhain yn wahanol yn dibynnu ar y math o eiddo ac unrhyw gyfleusterau lleol sydd ar gael. Nid yw pawb yn derbyn y gwasanaethau hyn oherwydd efallai nad ydyn nhw'n berthnasol i bob math o eiddo. Dyma ychydig o enghreifftiau o'r gwasanaethau y gellir eu hariannu gan daliadau gwasanaeth:
-
Gofalwr
-
Cynnal a chadw lifftiau
-
Cynnal a chadw mynediad drws
-
Garddio mewn ardaloedd Cymunedol
-
Goleuadau mewn ardaloedd Cymunedol
-
Erialau teledu a digidol
-
Teledu cylch gyfyng
-
Offer amddiffyn rhag tân
Mewn rhai achosion, gall taliadau gwasanaeth fod yn bersonol i'r tenant megis:
-
Gwresogi personol a dŵr poeth
-
Cyfraddau dŵr personol
-
Gwasanaethau Cyswllt Brys / llinell ofal.
Gelwir y mwyafrif o daliadau gwasanaeth yn daliadau gwasanaeth ‘amrywiol’. Mae tâl gwasanaeth amrywiol fel arfer yn seiliedig ar y gost wirioneddol o ddarparu'r gwasanaeth neu'r gwasanaethau a gall fynd i fyny neu i lawr yn unol â hynny. Yn gyffredinol, amcangyfrifir taliadau gwasanaeth ar ddechrau pob blwyddyn ar sail costau blaenorol ac amcangyfrif o'r gwariant.
Yn gyffredinol, rhennir cost ddisgwyliedig darparu'r gwasanaeth yn gyfartal rhwng yr eiddo sy'n derbyn y gwasanaeth ar yr ystâd neu yn y cynllun neu'r bloc. Er enghraifft, gallai bloc o 40 o fflatiau fod â thaliadau gwasanaeth am e.e. torri gwair, glanhau ffenestri, a theledu cylch cyfyng o £2000 am y flwyddyn. Felly, codir £50 y flwyddyn ar bob fflat.
Mae angen paratoi cyllidebau taliadau gwasanaeth yn ofalus i sicrhau eu bod yn realistig, yn rhesymol ac yn darparu gwerth am arian.
Cwestiynau i’w gofyn i’ch landlord:
-
Sut mae ansawdd gwasanaethau, y telir amdano gan daliadau gwasanaeth, yn cael ei fonitro a'i wirio?
-
Sut mae'r landlord yn sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian?
-
Pa wybodaeth a roddir i denantiaid am daliadau gwasanaeth a sut y cawsant eu cyfrif?
-
Beth all tenantiaid ei wneud os nad ydyn nhw'n hapus ynglŷn â chostau tâl gwasanaeth neu ansawdd y gwasanaethau maen nhw'n talu amdanynt?