Mae heddiw yn ben-blwydd geni Joey Deacon - rhywun yr wyf wedi dod i edmygu yn fawr ac mae ei lyfr wedi dylanwadu'n fawr arnaf o ran y ffordd yr wyf yn edrych ar ac yn cyfrannu at Gymdeithas. 

Bywyd Joey Deacon, ei ben-blwydd a'i effaith arna i

Mae heddiw yn ben-blwydd geni Joey Deacon - rhywun yr wyf wedi dod i edmygu yn fawr ac mae ei lyfr wedi dylanwadu'n fawr arnaf o ran y ffordd yr wyf yn edrych ar ac yn cyfrannu at Gymdeithas. .

Joey Deacon - tongue tied

Os ydych yn iau na 40 mlwydd oed, mae’n debyg na fydd gennych syniad pwy oedd Joey.  Os ydych yn eich 40au fel fi, byddwch yn cofio, gyda chywilydd, ‘jôcs’ iard ysgol yn yr 80au cynnar lle’r oedd cael eich cymharu â Joey Deacon yn destun sbort a sarhad. Roedd plant Thatcher yn griw creulon!
 
Felly, os nad ydych yn gwybod pwy oedd o neu wedi anghofio, treuliodd Joey Deacon rhan fwyaf o'i fywyd cyfan mewn Sefydliad Ysbyty oherwydd parlys yr ymennydd difrifol. Yn y 70au, ysgrifennodd lyfr o’r enw Tongue Tied yn adrodd hanes ei brofiad o dan gyfres o gyhoeddiadau o’r enw Sub-normality in the 70s wedi ei gyhoeddi gan MENCAP.  Yn anffodus, bu farw yn fuan ar ôl ei ymddangosiadau Blue Peter ym 1981 ond cafodd ei lyfr effaith ddifrifol arna i pan gefais afael ar gopi tua 10 mlynedd yn ôl.
 
Felly pam cofio Joey Deacon ar ei ben-blwydd?  I mi, mae nifer o resymau: 
 
1) Roedd ei benderfyniad yn anhygoel. Ysgrifennodd hunangofiant byr gwych drwy gyfuno sgiliau 4 ffrind agos. Roedd ei ffrind gorau Ernie (a oedd hefyd â pharlys yr ymennydd) yn gallu deall lleferydd Joey ac yn gallu cyfieithu ystumiau a symudiadau Joey i eiriau yn effeithiol. Yna bu i glaf arall, Michael, ysgrifennu'r cyfan. Wedi hyn cafodd ei deipio gan bedwerydd ffrind, Tom (a oedd ar y cychwyn methu darllen nac ysgrifennu ond fe ddysgodd ei hun i deipio er mwyn helpu). Fe gymrodd hyn pedwar mis ar ddeg iddynt i ysgrifennu pedwar deg pedwar o dudalennau. Roedd gan bob cyfaill sgil a gyda'i gilydd bu iddynt gyflawni eu nod.  I mi, mae hynny'n enghraifft wirioneddol o'r hyn y gellir ei gyflawni mewn byd o gyd-gynhyrchu a chydweithio, ble'r ydym yn gwerthfawrogi a rhannu sgiliau ac adnoddau pobl.
 
2) Rhywbeth sy'n aros yn fy meddwl pan fyddaf yn ail-ddarllen ei lyfr yw pa mor hir y treuliodd yn derbyn gofal sefydliadol. Roedd y diffyg cefnogaeth neu gynllun personol ar gael iddo yn syfrdanol o gymharu â chyfnod modern heddiw. Roedd yn ddeallus iawn ac eto nid oedd ganddo gefnogaeth na symbyliad am gyfnodau hir. Diolch i'r drefn bod cefnogi pobl ag anableddau wedi newid er gwell gyda gwaith gwych yn cael ei wneud yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, bu i mi dreulio peth amser gyda Chartrefi Cymru a chafodd argraff dda arna i yn gyson o weld eu dull penodol ar gyfer pob person maent yn eu cefnogi, gan sicrhau bod dyheadau pob unigolyn wrth wraidd pob cynllun cymorth. 
 
3) Fel cymdeithas, rydym yn dda iawn am baentio dros y gorffennol. I fod yn blwmp ac yn blaen, roedd Joey Deacon yn enwog gyda phlant yn y 80au am fod yn 'sbastig'. Roedd yn destun sbort a sarhad. Bydd pobl fy oedran i mae'n debyg yn gwadu galw eu ffrindiau yn 'Joey' neu ddwyn esgidiau rhywun.  Rwy’n cofio bod yn y Brifysgol ganol y 90’au ac yr oedd yn parhau i fod yn derm o sarhad, bryd hynny. Credaf 'mod i wedi ei glywed olaf yn y 2000au cynnar.  Fodd bynnag, yn anffodus mae chwiliad cyflym ar-lein yn dangos cannoedd o Meme’s sarhaus ar Google Images yn dangos bod hyn yn dal i fodoli. Mae Wicipedia wedi cael gwared o, ac wedi chwarae lawr yr adran am Blue Peter ‘a’r effaith ddiwylliannol' ar dudalen Joey Deacon, sy'n teimlo fel ein bod yn esgus nad yw erioed wedi digwydd. Ni ddylem anghofio'r hyn sy’n ein gwneud yn anghyfforddus.
 
4) Yn yr un modd mae rhai o'r iaith a'r ymadroddion a ddefnyddir yn y llyfr yn rhoi sioc achlysurol. Mae hyd yn oed yr is-bennawd swyddogol 'Sub-normality in the 70s' yn achosi rhywfaint o anghysur yn swyddfa TPAS Cymru'r bore ‘ma.
 
5) Y peth olaf sy’n aros yn fy meddwl yw pa mor bositif oedd Joey a'i gyfeillion er gwaethaf yr holl rwystrau yr oedd cymdeithas (a'u hanableddau) ar y pryd yn eu cyflwyno iddynt. Roeddent yn greadigol, yn ddoniol ac ysbrydoledig ac mae hyn wedi cael effaith dwys a chadarnhaol arnaf.   
 
Felly ar ddyddiad dy ben-blwydd Joey, codaf fy mhaned mewn llwnc destun i ti. Pen-blwydd Hapus!  
 
David Wilton, Cyfarwyddwr
TPAS Cymru

Twitter: @Dai_TpasCymru

Linkedin: https://uk.linkedin.com/in/davidwilton