Adroddiad Rheoleiddio ar gyfer iechyd a diogelwch yn nodi’r angen am ymgysylltiad tenantiaid 

15 argymhelliad iechyd a diogelwch y mae angen i bob Bwrdd eu dilyn

 

Adroddiad Rheoleiddio ar gyfer iechyd a diogelwch yn nodi’r angen am ymgysylltiad tenantiaid

 

Ym mis Mehefin, 2018 gofynnodd tîm rheoleiddio Llywodraeth Cymru i bob landlord cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru gyflwyno adroddiad sicrwydd llawn ar ei drefniadau iechyd a diogelwch. Datgelodd yr adroddiadau er bod gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig broffil uchel o bolisïau a phrosesau iechyd a diogelwch, amlygwyd nifer o feysydd i'w gwella gan ystod o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 15 argymhelliad.

 

Mae’r 15fed argymhelliad yn nodi “Dylai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sicrhau bod trefniadau priodol ar waith ganddynt i annog tenantiaid i ymgysylltu â threfniadau iechyd a diogelwch landlordiaid a dylanwadu arnynt”. Mae TPAS Cymru yn falch i glywed bod tenantiaid wedi cael eu cynnwys yn hyn er ein bod yn credu y dylai grwpiau tenantiaid ystyried bob un o’r 15 argymhelliad. Er enghraifft, mae argymhelliad 9 yn nodi “Dylai Byrddau landlord cymdeithasol cofrestredig ystyried p’un a ydynt wir yn deall goblygiadau’r data y maent yn eu hystyried”. Wrth gwrs, rydym yn cytuno â hyn, ond hoffem wybod a yw tenantiaid yn wirioneddol ymwybodol o'r goblygiadau hefyd ac a fydd y landlordiaid yn sicrhau hyn o ganlyniad i argymhelliad 15. Efallai yn bwnc i grŵp craffu i'w ystyried?

 

Os hoffech ddarllen yr argymhellion mewn mwy o fanylder, dilynwch y ddolen hon.

https://gov.wales/docs/desh/publications/181010-rsl-landlord-health-and-safety-cy.pdf